Gwelwch y tudalen hwn yn:
English
Mae Omniglot yn ganllaw i’r systemau ysgrifennu ac ieithoedd y byd.
Mae hefyd yn cynnwys cymorth ar ddysgu Ieithoedd, Erthyglau sydd yn berthnasol at ieithoedd. Cronfa eithaf fawr o geiriau defnyddiol mewn nifer o ieithoedd, Ysgrythurau amlieithog, Stôr llyfrau amlieithog a rhestr o ddolenni adnoddau ieithoedd sydd wastad yn tyfu.
Fedrwch ffeindio canllaw i gynnwys Omniglot ar fap y safle. A rhestr o bob math o systemau ysgrifennu, Ieithoedd sydd ar y safle yn yr indecs A-Z
Sefydlwyd Omniglot yn nôl yn 1998 gan fi, Simon Ager, a dwi wedi cynnal a datblygu’r safle yn fy amser rhydd ers hynni. Mae llawer o bobl wedi cyfrannu deunydd newydd, cywiriadau, awgrymiadau, a dwi’n hynod o ddiolchgar am hyn.
Roeddwn i newydd ddod nôl o Daiwan pryd cychwynnais i Omniglot ar ôl treulio pum mlynedd yno yn gweithio yn bennaf i’r cyngor Prydeinig. Ar y cyfnod roeddwn i’n gwneud ychydig o gyfieithu ar liwt a gwaith datblygu gwefannau tra’n chwilio am swydd newydd. Yn y diwedd ces i swydd fel datblygwr gwefannau amlieithog ym Mrighton, ar arfordir deheuol Lloegr, lle gweithiais am dua naw blynedd.
Cafodd Omniglot ei gyfuno fel cwmni, Omniglot Ltd yn 2008. Dwi’n gweithio arni’n llawn amser ar hyn o bryd a hon sydd yn ennill fy nghyflog yn bennaf. Dwi hefyd yn gwneud ychydig o ysgrifennu am ieithoedd a theithio.
Fedrwch gefnogi Omniglot trwy roi arian trwy PayPal:
Neu dych chi'n gallu cefnogi'r wefan hon mewn fyrdd eraill.
Omniglot Ltd. wedi'u gofrestru yn Lloegr a Chymru, rhif 6624958
Mae'r tudalen hwn wedi cael ei gyfieithu i Gymraeg gan Adam Jones
| Singapore Hotels from DirectRooms.com |
Copyright 1998- Simon Ager