Word of the day – gwlyb

gwlyb /’gulIb/, adjective = wet, dank, sloppy, liquid

gwlyb, ansoddair = gwleb, yn cynnwys hylif, llaith, wedi gwlychu, yn bwrw glaw

This is a lovely Welsh word that looks impossible to pronounce to non-Welsh speakers. It actually sounds something like goo-lib – both w and y are vowels in Welsh.

Related words
gwlypach, comparative – wetter
gwlypa(f), superlative – wettest
gwlybaniaeth, noun – moisture
gwlybwr, noun – liquid
gwlybyrog, adjective – wet, liquid
gwlychu, verb – to wet, soak, drench

Examples of usage:

oedd hi’n gwlyb y bore ma ym Mrighton
– it was wet in Brighton this morning (there was a big storm)

bydd hi’n wlypach o lawer yn y De nag yn y Gogledd
– it will be a lot wetter in the South than in the north

One thought on “Word of the day – gwlyb

  1. ie, llafariad yw w yn gymraeg, ond yn ogystal ag i gall hi fod yn gytsain hefyd fel yma, felly y cynaniad go iawn yw /gwli:b/ sef llafariad hir, un sillaf. hefyd mae dwy ffordd o ynganu y (yn ogystal â’r gwahaniaeth byr/hir) felly gwlyb yw /gwli:b/ ond mewn mannau eraill ceir shwa: gwlypach /’gwl@paX/, gwlypa(f) /’gwl@pa(v)/, gwlychu /’gwl@Xi/. gyda llaw, yn y de ryn ni’n tueddu colli’r /w/ rynglafarog ar lafar: gwlyb /gli:b/, gwraig /graIg/, gwneud /(g)neId/. mae’n cael ei chynanu mewn cyd-destunau mwy ffurfiol, ac yn yr anthem genedlaethol wrth gwrs “gwlad, gwlad!” /gwla::d gwla:::d/! gobeithio bod hynny o help.

    yep, w is a vowel in welsh, but along with i it can be a consonant too which is the case here, so its actually pronounced /gwli:b/ i.e. long vowel, one syllable. also y has two pronunciations (apart from the usual short/long distinction), so gwlyb is /gwli:b/ but elsewhere you get a schwa: gwlypach /’gwl@paX/, gwlypa(f) /’gwl@pa(v)/, gwlychu /’gwl@Xi/. by the way, in south wales, we tend to drop the intervocalic /w/ in speech: gwlyb /gli:b/, gwraig /graIg/, gwneud /(g)neId/. it’s pronounced in more formal contexts, and of course in the national anthem “gwlad, gwlad!” /gwla::d gwla:::d/! hope that helps.

Comments are closed.