Fforio

Yn ddiweddar dw i wedi bod yn fforio Bangor ac yr ardal hon. Dw i’n arfer dilyn pob llwybr ydw i’n darganfod i weld i le maen nhw’n mynd. Echddoe, er enghraifft, mi ddarganfodais lwybr sy’n mynd i lawr i’r lan o Ffordd Siliwen, y ffordd sy rhedeg ar hyd y môr o’r pier, ac mi gerddais ar hyd y lan cyn hir ag medru i, ac yna i lawr â fi i’r prifysgol. Ddoe es i i Borth Penrhyn, ac wedyn mi ddarganfodais lôn sy’n mynd i fyny Mynydd Bangor hyd at Clwb Golff St. Deiniol. Roedd llawer o fwyar ar hyd y lôn ac mi ddynnais a fwytais cryn dipyn ohonynt – roedden nhw blasus iawn. Heddiw mi ddarganfodais lwybr sy’n mynd i fyny ochr arall Mynydd Bangor, lle roedd llawer o fwyar a golygfeydd hyfryd dros y ddinas i Eryri. A i yn ôl i dynnu mwy o fwyar cyn bo hir, a bydda i’n ceisio peidio â bwyta nhw i gyd cyn i mi cyrraedd adref! Bydd rhaid mi i ofyn i fy mam am rysetiau sy’n defnyddio mwyar.

Roedd fy ngwyliau yn Iwerddon, yr Alban a Sir Gaerhirfryn yn wych dros ben, gyda llaw. Yn Iwerddon roedd hi’n hyfryd gweld cymaint o bobol ydw i wedi cwrdd â nhw y llynedd, ac i ddod i nabod llawer o bobol newydd. Roedd gen i llawer o gyfle i siarad Gwyddeleg yn y dosbarthiadau a thu allan, mi ddysgais cryn dipyn o ganeuon newydd yn y prynhawniau, roedd cyngherddau gwych yn y nos ac wedyn sesiynau yn y tafarndai lleol. Mi ganais fy chwiban yn rhai o’r sesiynau hyd yn oed.

Y cwrs caneuon Gaeleg yn ngholeg Sabhal Mòr Ostaig ar Ynys Skye roedd yn ffantastig hefyd. Mi ddysgais mwy na 30 o ganeuon efo tiwtor ardderchog efo llais hyfryd, Christine Primrose, cwrddais â llawer o bobol diddorol, a siaradais cryn dipyn o Aeleg a Gwyddeleg – roedd torf fawr o siaradwyr Gwyddeleg yno sydd yn dysgu Gaeleg. Mae lle yn hyfryd hefyd, yn arbennig harddwch gwyllt y mynyddoedd a’r môr. Hoffwn i’n mynd yn ôl yn y dyfodol agos, ac efallai bydda i’n gwneud cwrs mewn Gaeleg a cherddoriaeth draddodiadol yno ar ôl i mi orffen y cwrs ym Mangor.

Beidh mé ag scríobh rud éigin as Gaeilge faoi m’eachtraíochtaí in Éirinn agus Albain amárach.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *