Priodas

Dw i’n newydd dod yn ôl o Gernyw lle briododd fy chwaer Ddydd Sadwrn mewn clwb cefn gwlad ger Saltash. Roedd y seremoni briodas yn syml efo darlleniadau gan gyfeillion fy chwaer ac ein mam, ac ar ôl ffotograffiaeth bron diddiwedd, roedd derbyniad wych. Roedd yr areithiau yn ddiddorol, y bwyd yn flasus, a’r cwmni yn neis, ac roedd twmpath gwych efo band byw ar ôl y pryd.

Mi nes i aros efo fy nheulu a fy mherthnasau mewn pentref gwyliau ger Saltash, ac mi nes i weld fy mrawd am y tro cyntaf ymhen tair flyneddoedd (mae o wedi bod yn hwylio o gwmpas y byd). Mi nes i gwrdd â merch fy nghefnder am y tro cyntaf erioed hefyd – mae hi’n tair blwydd a hanner, yn giwt iawn ac yn lawn o egni.

Mae’n ryfedd bod fy chwaer yn ddynes briod efo dau gyfenwau, ac mae gen i frawd a chwaer-yng-nghyfraith erbyn hyn.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *