Ddoe mi es i weithdy cerddoriaeth yn y Galeri yng Nghaernarfon i ddysgu y Requiem gan Mozart yn ystod un ddiwrnod. Roedd arweinydd ac unawdwyr gwych o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yno, ac mi nes i fwynhau y dydd yn fawr, ond tua diwedd y dydd roedd fy llais canu bron wedi diflannu, yn enwedig y nodau uwch.
Gyda’r nos mi es i Eisteddfod Môn efo Côr y Dysgwyr a Chôr Llanfairpwll, ond yn gyntaf mi aethon ni i Ganolfan Conwy ger Plas Newydd i ymarfer. Ac yna mi aethon ni i’r Eisteddfod yn Llangefni, ac ar ôl aros am awr neu ddwy, mi wnaethon ni cystadlu fel un gôr efo’r enw Côr Dros y Bont. Yn anffodus roedd fy llais canu yn wân o hyd ac mi nes i canu’r nodau isel yn unig ac roedd rhaid i mi meimio y lleill. Roedd dau gôr eraill yn cystadlu, ac mi wnaethon i y drydydd wobr.