Heno mi es i i gyngerdd wych yn y prifysgol gan Siân James, cantores a thelynores o Ganolbarth Cymru a Anxo Lorenzo, pibydd o Alisia. Roedd yn ardderchog dros ben.
Mae llais hyfryd iawn ‘da Siân, ac mae hi’n canu’r delyn a’r piano yn wych hefyd. Roedd dau ddyn yn cyfeilio hi – roedd un yn canu’r allweddellau a’r piano, ac yn canu, a roedd un arall yn canu chwibanau, y ffidil a’r accordion. Cerddorion dawnus iawn oedden nhw. A dweud y gwir, yr albwm Cymraeg cyntaf y brynes i oedd Distaw gan Siân James, ac wrth gwrando ar ei chaneuon, mi syrthies i mewn cariad gyda’r iaith Gymraeg, ac ar ôl hynny ro’n i’n awyddus i ddysgu’r iaith.
Mae Anxo Lorenzo yn dod o Alisia yng ngogledd-orllewin Sbaen. Mae e’n canu’r facpib Galisieg, neu gaita (de foles) yn yr Alisieg, a’r chwibanau. Yn cyfeilio e oedd dyn arall o Alisia sy’n canu’r bouzouki (boswcî?), a dyn o Iwerddon sy’n canu’r ffidil. Roedden nhw’n canu alawon o Alisia ac o Iwerddon yn angredadwy o dda ac yn gyflym dros ben. Mi glywes i’r facpib Galisieg o’r blaen – roedd dyn o Wcráin yn canu nhw un waith pan ro’n i’n yn Iwerddon – ond dw i erioed wedi clywed rhywun yn canu nhw mor gyflym a mor dda, ac roedd rhai o’r synau oedd yn dod oddi wrthynt yn hollol syfrdanol.
Enw arall, mwy cyffredin am ‘bagpipe’ yn y Gymraeg yw ‘pibgorn’.
A gyda llaw, parthed yr egin-erthygl am Iolo Williams, nid ‘toddi’ oedd y gair ond ‘dofi’ – ‘to tame’!!