Plygain o ganolbarth Cymru gan Eos Iâl (1794-1862) ydy hon.
This is a plygain carol from mid-Wales by David Hughes (1794-1862).
Ar gyfer heddiw'r bore'n
faban bach, (yn) faban bach,
Y ganwyd gwreiddyn Jese'n faban bach
Y cadarn ddaeth o Bosra,
Y deddfwr gynt ar Sina,
Yr Iawn gaed ar Galfaria'n
faban bach, (yn) faban bach,
Yn sugno bron Maria'n faban bach
Caed bywiol ddwfr Eseciel
Ar lin Mair, Ar lin Mair,
A gwir Feseia Daniel Ar lin Mari;
Caed bachgen doeth Eseia,
'R addewid roed i Adda,
Yr alffa a'r Omega
Ar lin Mair, Ar lin Mair;
Mewn côr ym Methle'm Juda Ar lin Mair
Am hyn, bechadur, brysia
Fel yr wyt, Fel yr wyt,
I 'mofyn am y noddfa Fel yr wyt;
I ti'r agorwyd ffynnon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon
Fel yr wyt; Fel yr wyt;
Am hynny tyrd yn brydlon Fel yr wyt.
Gwrandewch y gân 'ma / Listen to this song
[top]

Note: all links on this site to Amazon.com, Amazon.co.uk
and Amazon.fr
are affiliate links. This means I earn a commission if you click on any of them and buy something. So by clicking on these links you can help to support this site.
You can support this site by Buying Me A Coffee, via PayPal or Patreon, or by contributing in other ways.
If you find all the adverts annoying, there is now an Ad-free version of Omniglot which you can access for a small monthly or annual donation.
This website and its content is copyright of Simon Ager - © Simon Ager 1998-2026. All rights reserved. All images were created by me, unless otherwise indicated. More details
[top]