
The Tower of Babel (Genesis 11: 1-9)
Welsh (Cymraeg)
Y Beibl Cysegr Lan gan William Morgan (1588)
- A'r holl dîr ydoedd o un-iaith, ac o un ymadrodd.
- Ac wrth fudo o honynt o'r dwyrain, y cawsant wastadedd
yn nhir Sinar, ac yno y trigâsant.
- Ac a ddywedasant bôb un wrth ei gilydd, deuwch, gwnawn
briddfeini, a llosgwn yn boeth, felly'r ydoedd ganddynt briddfeini
yn lle cerric, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.
- A dywedasant, moeswch adailadwn i ni ddinas a thŵr, ai
nenn hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw rhac ein gwascaru rhyd wyneb
yr holl ddaiar.
- Yna y descynnodd yr Arglwydd i weled y ddinas a'r tŵr,
y rhai a adailiade meibion dynion.
- A dywedodd yr Arglwydd, wele bobl yn un, ac un iaith iddynt oll,
ac dymma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awrhon nid oes rwylir
atnynt am ddim oll ar a amcanasāt ei wneuthur.
- Deuwch descynnwn, a chymmyscwn yno eu hiaith hwynt fel na ddeallio
yn iaith ei gilydd
- Felly yr Arglwydd ai gwascarodd hwynt oddi yno rhyd wyneb yr holl
ddaiar, a pheidiasant ac adailadu y ddinas.
- Am hynny y gelwir ei henw Babel, a blegit yno y cymmyscodd yr
Arglwydd iaith yr holl ddaiar, ac oddi yno y gwascarodd yr Arglwydd
hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaiar.
Other version (1964)
- Un iaith ac un ymadrodd oedd i'r holl fyd.
- Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd
yng ngwlad Sinar a thrigo yno.
- A dywedasant wrth ei gilydd, "Dewch, gwnawn
briddfeini a'u crasu'n galed." Priddfeini oedd ganddynt
yn lle cerrig, a phyg yn lle calch.
- Yna dywedasant, "Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a
thŵr a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru
dros wyneb yr holl ddaear."
- Disgynnodd yr Arglwydd i weld y ddinas a'r tŵr yr oedd
meibion dynion wedi eu hadeiladu,
- a dywedodd, "Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y
maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim
y bwriadant ei wneud.
- Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt
ddeall ei gilydd yn siarad."
- Felly gwasgarodd yr Arglwydd hwy oddi yno dros wyneb yr holl
ddaear, a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas.
- Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd yr
Arglwydd iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr Arglwydd hwy oddi yno
dros wyneb yr holl ddaear.
Welsh pages on Omniglot
Tower of Babel in other Celtic languages
Breton,
Cornish,
Irish,
Manx,
Scottish Gaelic,
Welsh
Tower of Babel in other languages