
The Tower of Babel (Genesis 11: 1-9)
Welsh (Cymraeg)
Y Beibl Cysegr Lan (1588) gan William Morgan
- A'r holl dîr ydoedd o un-iaith, ac o un ymadrodd.
- Ac wrth fudo o honynt o'r dwyrain, y cawsant wastadedd
yn nhir Sinar, ac yno y trigâsant.
- Ac a ddywedasant bôb un wrth ei gilydd, deuwch, gwnawn
briddfeini, a llosgwn yn boeth, felly'r ydoedd ganddynt briddfeini
yn lle cerric, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.
- A dywedasant, moeswch adailadwn i ni ddinas a thŵr, ai
nenn hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw rhac ein gwascaru rhyd wyneb
yr holl ddaiar.
- Yna y descynnodd yr Arglwydd i weled y ddinas a'r tŵr,
y rhai a adailiade meibion dynion.
- A dywedodd yr Arglwydd, wele bobl yn un, ac un iaith iddynt oll,
ac dymma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awrhon nid oes rwylir
atnynt am ddim oll ar a amcanasāt ei wneuthur.
- Deuwch descynnwn, a chymmyscwn yno eu hiaith hwynt fel na ddeallio
yn iaith ei gilydd
- Felly yr Arglwydd ai gwascarodd hwynt oddi yno rhyd wyneb yr holl
ddaiar, a pheidiasant ac adailadu y ddinas.
- Am hynny y gelwir ei henw Babel, a blegit yno y cymmyscodd yr
Arglwydd iaith yr holl ddaiar, ac oddi yno y gwascarodd yr Arglwydd
hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaiar.
Y Bibl Cyssegr-lan (1848)
- A'r holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd.
- A bu, a hwy yn ymdaith o'r dwyrain, gael o honynt wastadedd yn
nhir Sinar; ac yni y trigasant.
- A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini,
a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt brddfeini yn lle cerrig,
a chlai oedd ganddynt yn lle calch.
- A dywedasant, Moeswch, adailadwn i ni ddinas, a thŵr, a'i
nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb
yr holl ddaear.
- A'r Arglwydd a
ddigynodd i weled y ddinas a'r tŵr a adailiadai meibion dynion.
- A dywedodd yr Arglwydd,
Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad
hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystir atnynt am ddim oll
a'r a ameanasant ei wneuthur.
- Deuwch, disgynwn, a chymmysgwn yno eu hiaith hwynt, fel na
ddeallont yn iaith eu gilydd
- Felly yr Arglwydd
a'u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear: a
pheidiasant ag adeiladu y ddinas.
- Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymmysgodd yr
Arglwydd iaith yr
holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd
hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.
Source: https://www.bible.com/bible/394/GEN.11.BCND
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig (2004)
- Un iaith ac un ymadrodd oedd i'r holl fyd.
- Wrth ymdeithio yn y dwyrain, cafodd y bobl wastadedd yng ngwlad Sinar a thrigo yno.
- A dywedasant wrth ei gilydd, “Dewch, gwnawn briddfeini a'u crasu'n galed.” Priddfeini oedd ganddynt yn lle cerrig, a phyg yn lle calch.
- Yna dywedasant, “Dewch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr a'i ben yn y nefoedd, a gwnawn inni enw, rhag ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear.”
- Disgynnodd yr ARGLWYDD i weld y ddinas a'r tŵr yr oedd y bobl wedi eu hadeiladu,
- a dywedodd, “Y maent yn un bobl a chanddynt un iaith; y maent wedi dechrau gwneud hyn, a bellach ni rwystrir hwy mewn dim y bwriadant ei wneud.
- Dewch, disgynnwn, a chymysgu eu hiaith hwy yno, rhag iddynt ddeall ei gilydd yn siarad.”
- Felly gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear, a pheidiasant ag adeiladu'r ddinas.
- Am hynny gelwir ei henw Babel, oherwydd yno y cymysgodd yr ARGLWYDD iaith yr holl fyd, a gwasgarodd yr ARGLWYDD hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear.
Source: https://www.bible.com/bible/394/GEN.11.BCND
Information about Welsh |
Phrases (serious) |
Phrases (silly) |
Numbers |
Family words |
Terms of endearment |
Colours |
Time |
Dates |
Weather |
Idioms |
Proverbs |
Tongue twisters |
Songs |
Tower of Babel |
Coelbren y Beirdd (Bardic alphabet) |
Braille for Welsh |
Links |
My podcast about Welsh |
Comparison of Celtic languages |
Celtic cognates |
Celtiadur |
Books about Welsh on: Amazon.com and Amazon.co.uk [affilate links]
Tower of Babel in Celtic languages
Breton,
Cornish,
Cumbric,
Irish,
Manx,
Scottish Gaelic,
Welsh
Other Tower of Babel translations
By language |
By language family
[top]

Note: all links on this site to Amazon.com
, Amazon.co.uk
and Amazon.fr
are affiliate links. This means I earn a commission if you click on any of them and buy something. So by clicking on these links you can help to support this site.
You can support this site by Buying Me A Coffee, via PayPal or Patreon, or by contributing in other ways.
If you find all the adverts annoying, there is now an Ad-free version of Omniglot which you can access for a small monthly or annual donation.
This website and its content is copyright of Simon Ager - © Simon Ager 1998-2026. All rights reserved. All images were created by me, unless otherwise indicated. More details
[top]